Tan fy maich yr wyf yn griddfan, Dysgwyl amser o ryddhau; Dysgwyl i 'mhechodau dreulio, Etto 'mhechod sy'n parhau; Dysgwyl câf gasineb hollol, Caria f'addunedau'r dydd, Etto finnau yn y gadwyn, Ac yn methu myn'd yn rhydd. O na chlywn yr udgorn arian Yn cyhoeddi'n eglur iawn, Bellach i fy enaid llwythog Heddwch a maddeuant llawn: O na ddeuai nerth i waered, Fel llifeiriant mawr ei rym, Fel nad allai'm nwydau penaf Mwyach ti wrthsefyll ddim. Tòr y rhwydau sy gan Satan, Llosg gadwyni yn y tân; Dyred, argyhoeddiad nerthol, Difa 'mhechod o dy flaen: Delled peraidd heddwch yntau, Nes gorchfyga melys chwant, Nes bo 'mai trwy bob rhyw foddion Felly yn diflanu i bant. - - - - - Tan fy maich yr wyf yn griddfan, Dysgwyl amser i ryddhau; Dysgwyl fy mhechodau dreulio, Etto mhechod sy'n parhau; Dysgwyl caf gasineb hollol, Carief fy addunedau i'r dydd; Etto finnau yn y gadwyn, Ac yn methu myn'd yn rhydd. O na chlywn yr udgorn arian, Ryw bryn yn rhoi bloedd i ma's, Ac yn cyhoeddi i f'enaid llwythog, Heddwch a maddeuol ras: O na ddeuai nerth i wared, Fel llifeiriant mawr ei rym, Fel na allai'm nwydau pennaf, Bellach i'w wrth-sefyll ddim. Mi ro'wn fydoedd maith, pe meddwn, Am gael gweled torri lawr Bethau sy'n myn'd â meddwl Mil o weithiau yn yr awr: Trais a gorchest sydd ar fy yspryd, Cryf yw'm gelyn, minnau'n wan, Addfwyn Oen, yn fuan brysia, Help fi o'r pydew hyn i'r lan.William Williams 1717-911
Tonau [8787D]: gwelir: O na chlywn yr utgorn arian |
Under my burden I am groaning, Expecting a time of freedom; Expecting my sins to wear out, Still my sins are enduring; Expecting I shall get complete hatred, My vows shall carry the day, Still I am in the chain, And failing to go free. O that I would hear the silver trumpet Announcing very clearly, Henceforth for my burdened soul Peace and full forgiveness: O that strength would come down, Like a stream of great force, That I my chief lust may not Any more withstand thee at all. Break the snares that Satan has, Burn chains in the fire; Come, thou strong conviction, Destroy my sin before thee: Let sweet peace itself come, Until overcoming sweet desire, Until my fault by all means Thus vanish away. - - - - - Under my burden I am groaning, Expecting a time of freedom; Expecting my sins to wear out, Still my sins are enduring; Expecting I shall get complete hatred That my vows shall carry the day; Still I am in the chain, And failing to go free. O that I would hear the silver trumpet, Some time giving out a shout, And announcing to my burdened soul, Peace and forgiving grace: O that strength would come to deliver, Like a stream of great force, That my chief lusts would No longer withstand it at all. I would give vast worlds, if I possessed them, To get to see the breaking down Of things that take my thought A thousand times an hour: Violence and defeat are upon my spirit, Strong is my enemy, whereas I am weak, Gentle Lamb, soon hurry, Help me up from this pit.tr. 2021 Richard B Gillion |
|